Mary PhyllisHUGHESDymuna teulu y ddiweddar Mary Phyllis Hughes o Fferm Glanrafon, Malltraeth ddiolch yn fawr iawn am y caredigrwydd a dderbyniwyd yn eu profedigaeth. Diolch i'r Parchedigion Llywelyn Moules Jones, Geraint Roberts a Richard Owen Jones am eu gwasanaeth teimladwy a thyner, ag i'r Organyddes Mrs M Griffiths ar ddydd yr angladd. Diolch i Mr Norman Evans a chwiorydd yr Eglwys am eu croeso tyner wrth y byrddau. Diolch i bawb sydd wedi anfon cardiau a llythyrau o gydymdeimlad i'r teulu. Diolch am y rhoddion hael sydd wedi dod i law i goffau am Phyllis mae y swm o £1,585.00 yn cael ei gyflwyno i Ambiwlans Awyr Cymru. Diolch i'r Ymgymerwr Gwenan Roberts am ei ffordd dawel ei hyn.
Keep me informed of updates